WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide
10 CYMORTH ADOLYGU Strategaethau deall iaith 4 Gwybodaeth flaenorol. Hynny yw, beth ydych chi’n ddeall yn y darn. Weithiau, mae pobl yn edrych ar destun Cymraeg ac yn meddwl ‘ I can’t understand any of that ’! Darllenwch y darn i chi eich hun a thanlinellwch pob gair rydych chi’n deall. Bydd hyn yn gwneud i chi sylweddoli eich bod yn deall llawer mwy na beth rydych chi’n feddwl. 4 Gwybodaeth gyffredinol e.e. Caerdydd ydy prifddinas Cymru. Dylech chi fod yn gyfarwydd â ‘Caerdydd’ ac os ydy’r gair ‘prifddinas’ yn anghyfarwydd i chi, gallwch ganfod ei ystyr oherwydd eich bod yn gwybod mai Caerdydd ydy Prifddinas Cymru. Roedd Elisabeth 1 yn frenhines Prydain. Efallai eich bod yn anghyfarwydd â ‘frenhines’ ond rydych yn gwybod bod Elizabeth 1 wedi bod yn frenhines Prydain. 4 Gwybodaeth am ieithoedd eraill, e.e. pont, eglise (Ffrangeg), garej, ffrind, siop (Saesneg). Weithiau, mae ystyr y geiriau hyn yn dod yn fwy amlwg wrth i chi eu darllen yn uchel i chi eich hun. 4 Geiriau Cymraeg sy’n debyg i’r Saesneg, e.e. technoleg, trên, bws, platfform. Mae pob iaith yn defnyddio geiriau sy’n gyffredin i’w gilydd ac nid yw’r Gymraeg yn eithriad. 4 Cyd-destun e.e. ‘Roedd e’n chwarae pêl-droed i Spurs cyn symud i Real Madrid ac mae e’n dod o Gaerdydd.’ Dyma gyd-destun sy’n dweud wrthon ni bod y darn darllen yma’n sôn am bêl- droediwr enwog. 4 Rhan o air, e.e. mor wr, dydd iadur, llun iau 4 Lluniau – mae lluniau, fel arfer, yn rhoi syniad da am gynnwys darnau darllen 4 Teitlau ac is-deitlau 4 Dyfalu, cymryd risg ‘ if all else fails ’! 4 Cipddarllen (sgimio), sef darllen y darn i gyd er mwyn adnabod y prif syniadau’n gyflym mewn testun. 4 Llithrddarllen (sganio), sef chwilio am fanylion, weithiau er mwyn ateb cwestiynau.
Made with FlippingBook
RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=