WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide
12 CYMORTH ADOLYGU SGIMIO a SGANIO i helpu gyda DARLLEN Cipddarllen neu … sgimio Beth sy’n rhaid gwneud? • Darllen y teitl, penawdau ac is-benawdau • Edrych ar luniau, teitl, is-deitlau, paragraffau • Darllen brawddegau cyntaf ac olaf paragraffau • Meddwl am ystyr cyffredinol y testun • Peidio darllen pob gair a phob brawddeg Llithrddarllen neu … sganio Beth sy’n rhaid gwneud? • Gwybod pa gwestiynau sydd angen eu hateb. Hynny yw, am beth rydych chi’n chwilio? • Peidio darllen pob gair • Darllen yn fertigol yn hytrach na’n llorweddol • Edrych am gliwiau, e.e. priflythrennau, rhifau, siapiau geiriau • Defnyddio arwyddion, e.e. penawdau, is-deitlau Ateb cwestiynau. Pwy ...? Chwiliwch am: priflythrennau enwau pobl sôn am bobl, e.e. y dyn drws nesa, tafarnwr Mr./Mrs. gwaith pobl, e.e. pennaeth/doctor. Pwy ddywedodd ...? dyfynodau (pan mae rhywun yn/wedi dweud rhywbeth, e.e. “ Es i allan i’r ...” meddai Siôn) Pam ...? Chwiliwch am: achos ... Ble? yn/yn y, ar/ar y ... enw lle Pryd? – chwiliwch am: blwyddyn, e.e. 2018 (dwy fil un deg wyth) tymor, e.e. yr haf mis, e.e. mis Ionawr diwrnod, e.e. dydd Llun amser, e.e. chwech o’r gloch cyfnod, e.e. bore/prynhawn/ddoe/heddiw/ fory. Sut ...? Chwiliwch am: yn gyflym/yn araf yn hapus yn drist yn y ... , e.e. yn y car ar ... , e.e. ar fws, ar y bws mewn ... , e.e. mewn awyren. Defnyddiwch y cyswllt i gael mwy o help gyda’r amser, treigladau, ansoddeiriau, arddodiaid etc http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs.aspx?subId=31&lvlId=2 Sgimio a sganio Sgiliau darllen allweddol
Made with FlippingBook
RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=