WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide

16 UNED 1 B: Ymarfer cyn yr asesiad Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael digon o gyfle i ymarfer a datblygu eich sgiliau siarad a gwrando yn ystod y cwrs. Bydd eich athrawon yn rhoi cyfleoedd i chi, ond gallwch ymarfer gyda ffrind/ ffrindiau hefyd. 1 Chwarae rôl i ymarfer sgiliau siarad a gwrando mewn grwpiau . I ymarfer y sgìl o siarad a gwrando dylai: • pob aelod gymryd rôl yr ‘Arweinydd’, yr ‘Ysgrifennydd’ neu’r ‘Siaradwr’ • pob aelod wisgo ‘cerdyn chwarae rôl’ • pawb gael y cyfle i fod yn ‘Arweinydd’, ‘Ysgrifennydd’ a ‘Siaradwr’ • ochr 1 y cerdyn ddweud beth ydy rôl pob un • ochr 2 gynnwys patrymau iaith i helpu gyda’r trafod Ochr 1 y cerdyn ‘chwarae rôl’ Ochr 2 y cerdyn ‘chwarae rôl’ (*Enghraifft o batrymau) Arweinydd Rhaid i ti wneud yn siŵr bod pawb yn: • gwybod beth ydy’r dasg • cael cyfle i gymryd rhan • gwneud eu gorau glas • trafod yn dda • crynhoi Beth wyt ti’n feddwl o …? Wyt ti’n cytuno …? Pam wyt ti’n anghytuno? Beth ydy dy farn di …? Pam wyt ti’n dweud hynny? Pam wyt ti’n meddwl bod …? Wyt ti’n meddwl bod …? Faset ti’n dweud bod …? *Mae’n bwysig bod y pâr/grwˆ p yn dewis eu patrymau iaith eu hunain. Ysgrifennydd Rhaid i ti gadw nodiadau. Pwy oedd yn: • trafod yn dda • cynnig syniadau • gofyn cwestiynau • cytuno/anghytuno • gwrando’n ofalus • mynegi barn • cynnig rhesymau • dilyn y meini prawf Yn fy marn i mae … Dw i o’r farn bod … Dw i’n meddwl bod … Dw i’n credu mai … ydy … Dw i’n dweud hyn achos … Dw i’n cytuno gyda … achos … Dw i’n anghytuno’n llwyr achos … Baswn i byth yn dweud bod … Siaradwr Rhaid i ti adrodd yn ôl i weddill y grŵp gan ddweud pwy oedd yn: • trafod yn dda • cytuno/anghytuno • gwrando’n ofalus • mynegi barn • cynnig rhesymau Hefyd rhaid i ti grynhoi ( summarise ) barn y grŵp. Beth am greu rhywbeth fel hyn? Rôl ar un ochr a phatrymau iaith ar yr ochr arall.

RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=