WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide
18 UNED 1 2 Trafod ffonau symudol Ar dudalen 26 byddwch yn darllen sgwrs rhwng Anna, Bethan a Connor. Byddan nhw’n trafod rheol newydd yn yr ysgol. Mae’r Pennaeth wedi penderfynu banio ffonau symudol o’r ysgol. Er mwyn eich helpu i ddeall ac ymateb i’r sgwrs mae’n syniad trafod ffonau symudol mewn parau, grwpiau neu fel dosbarth cyfan yn gyntaf. GWAITH PÂR A : Oes gen ti ffôn symudol? B : Oes, wrth gwrs. A : Pa fath? B : iPhone 7pinc, newydd sbon. A : Ti’n lwcus! Dim ond iPhone 6S sy gen i. (i) DARLLENWCH y sgwrs mewn parau. (ii) Caewch y llyfr ac yna defnyddiwch y patrymau i gynnal sgwrs debyg gyda phartner. (iii) Defnyddiwch y trydydd person i adrodd yn ôl i weddill y grŵp. Sut fyddi di’n defnyddio dy ffôn symudol? Rhowch 3 /x yn ‘Colofn 2’ i ateb y cwestiwn yn ‘Colofn 1’ ac yna brawddeg yn ‘Colofn 3’ i roi mwy o wybodaeth/mynegi barn. Yna gweithiwch gyda phartner. Defnyddiwch eich atebion i holi ac ateb, cytuno ac anghytuno a mynegi barn. Bydda i’n defnyddio fy ffôn-ar-y-lôn i: 3 /x Mwy o wybodaeth/mynegi barn ffonio 3 e.e. Mae’n handi i ffonio adre. tecstio chwarae gemau llwytho i lawr anfon/derbyn ebost 3 e.e. Dw i wrth fy modd yn derbyn ebost gan fy ffrindiau. tynnu lluniau mynd ar gweplyfr trydaru defnyddio ‘app’ helpu gyda gwaith ysgol neu gwaith cartref e.e. Mae gan Anna ffôn symudol. iPhone 7 pinc, newydd sbon ydy e. Mae hi’n lwcus. DIM FFONAU SYMUDOL NO MOBILE PHONES
Made with FlippingBook
RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=