WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide

24 UNED 1 GWAITH PÂR : Chwarae rôl (i) Dewiswch pwy ydy ‘ Partner 1 ’ a phwy ydy ‘ Partner 2 ’. (ii) Mae ‘Partner 1’ o blaid banio ffonau symudol ac felly mae ‘Partner 2’ yn erbyn banio ffonau symudol. (iii) ‘Partner 1’ sy’n mynd gyntaf ac yn dweud ei fod e/ei bod hi o blaid banio ffonau symudol ac yn dweud pam. (iv) Bydd ‘Partner 2’ yn dweud ei fod e/ei bod hi’n anghytuno (ddim yn cytuno) a’i fod e/ei bod hi yn erbyn banio ffonau symudol ac yn dweud pam. Rhywbeth fel hyn : Partner 1: Yn sicr, dw i o blaid banio ffonau symudol achos dydy rhai plant ddim yn gallu fforddio ffôn symudol. Partner 2: Dw i’n anghytuno’n llwyr ( totally ). Dw i yn erbyn banio ffonau symudol achos mae ffôn symudol yn handi pan dw i angen lifft gan Dad. Darllenwch y sgript ond peidiwch â defnyddio’r sgript i chwarae rôl. Asesiad llafar ydy UNED 1 Dw i yn erbyn banio ffonau symudol achos … Dw i o blaid banio ffonau symudol achos …

RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=