WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide

4 RHAGAIR Rhagair Bwriad y llyfr hwn ydy eich helpu i adolygu’n effeithiol ar gyfer asesiad TGAU, Cymraeg ail iaith. Mae’r llyfr yn cynnwys ystod eang o ymarferion i ymarfer y sgiliau iaith sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich potensial. Mae’r ymarferion hyn yn gysylltiedig â phedair uned y fanyleb (y ddogfen sy’n amlinellu gofynion y cwrs). Mae’r llyfr yn gyhoeddiad dwyieithog er mwyn sicrhau eich bod yn deall pob gair sydd ynddo. Fe’ch anogir fodd bynnag, i wneud defnydd o’r adrannau cyfrwng Cymraeg; bydd hyn yn codi safon eich dealltwriaeth o’r iaith. Mae’r llyfr yn cynnwys arweiniad defnyddiol ar sut i adolygu. Pwysleisir technegau deall iaith a’r sgiliau holl bwysig o lithrddarllen a chraffddarllen. Fe’ch anogir drwyddi draw i ddefnyddio’r sgiliau hyn pan rydych yn mynd i’r afael â’r ymarferion. Bydd hyn yn talu ar ei ganfed pan fyddwch yn sefyll yr arholiadau. Gwnewch pob ymdrech i ddefnyddio’r dolenni cyswllt sydd yn y llyfr i wefanau CBAC ac Illuminate Publishing lle mae ymarferion pellach, geirfa a phatrymau iaith angenrheidiol a sgriptiau a chlipiau ffilm sy’n perthyn iddyn nhw. I orffen, achubwch ar bob cyfle yn y dosbarth a thu hwnt i furiau’r ysgol i ymarfer siarad a gwrando ar y Gymraeg. Nodyn : gallwch lwytho i lawr fanyleb y pwnc a’r deunyddiau asesu enghreifftiol o wefan CBAC: http://www.wjec.co.uk/qualifications/qualification-resources. html?subject=WelshSecondLanguage&level=gcsefrom2017 .

RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=