WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide

6 CYMORTH ADOLYGU Cymorth adolygu 4 Rhowch ddigon o amser i adolygu – peidiwch â dechrau ychydig ddyddiau cyn yr arholiadau. 4 Ewch i wefan CBAC i gael copi o’r fanyleb a chopi o’r deunyddiau asesu enghreifftiol. Edrychwch arnyn nhw’n rheolaidd a gofynnwch i’ch athrawon am help gyda’r agweddau sy’n anodd i chi. 4 Lluniwch amserlen adolygu realistig i chi eich hun. 4 Adolygwch ychydig ar y tro. Wrth adolygu, ewch i’r afael â thasgau go iawn yn hytrach nag edrych ar lyfr. Er enghraifft : 4 atebwch gwestiwn mewn hen bapur arholiad (gofynnwch i’ch athro eich helpu i gael hyd i un tebyg o ran gofynion y cwrs newydd) 4 defnyddiwch y cynllun marcio sydd yn y fanyleb, i farcio eich gwaith eich hun 4 ystyriwch sut y gallwch chi wella eich gwaith …mae adolygu fel hyn yn effeithiol dros ben. 4 Defnyddiwch fapiau meddwl – mae rhain yn gallu eich helpu i strwythuro tasgau ysgrifennu, e.e. ysgrifennu erthygl am fwyta’n iach. 4 Wrth adolygu, holwch eich hun: ‘Beth ydw i eisiau ddysgu?’ Rhowch darged i chi eich hun. 4 Adolygwch gyda ffrind – helpwch eich gilydd i wella eich Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Darllenwch yn uchel i’ch gilydd. 4 Wrth edrych ar eich llyfrau/ffeiliau, tanlinellwch pob gair rydych yn eu deall. Defnyddiwch eiriadur i gael hyd i ystyr y lleill a dysgwch nhw. 4 Gwyliwch raglenni Cymraeg ar y teledu. Cofiwch does dim rhaid deall pob gair. 4 Sylwch ar y ffordd mae Cymry Cymraeg yn ynganu rhai llythrennau, e.e. rhoi pwyslais ar y lythyren ‘R’. 4 Recordiwch eich hun yn siarad Cymraeg a gofynnwch i ffrindiau os ydyn nhw’n eich deall. AWGRYMIADAU ADOLYGU ✓

RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=