WJEC GCSE Welsh Second Language Revision Guide

8 CYMORTH ADOLYGU Yn ystod yr Asesiad neu’r Arholiad Yn yr arholiad/au , darllenwch y papur/au arholiad i gyd cyn dechrau ateb cwestiynau. Efallai y byddwch yn gallu defnyddio rhai geiriau/ymadroddion sydd yn y cwestiynau yn eich atebion. Edrychwch yn ofalus ar luniau, penawdau ac is-benawdau. Yn yr arholiadau llafar ac ysgrifenedig , defnyddiwch amrywiaeth o ferfau/patrymau iaith yn eich atebion, e.e. Dw i’n … Roedd … Aethon ni … Hoffwn i … Rhedais i … Wrth fynegi barn, rhowch dri rheswm gan roi trefn ar eich ateb, e.e. Mae … yn well na … Yn gyntaf, mae … Yn ail, roedden nhw’n … Yn drydydd, bydd … Defnyddiwch ansoddeiriau a chofiwch eu bod yn dilyn enwau yn Gymraeg, e.e. Mae Abertawe yn dîm gwych. Bachgen drwg ydy Dafydd. Amserwch eich hun yn ofalus; peidiwch â threulio gormod o amser ar un cwestiwn fel nad oes gennych amser i ateb y lleill. Peidiwch â mynd i gors – os nad ydych chi’n gallu ateb cwestiwn, ewch ymlaen at y nesaf a dychwelwch ato’n hwyrach ymlaen. ADOLYGU GRAMADEG Rheolau ENW ANSODDAIR ARDDODIAD RHAGENW

RkJQdWJsaXNoZXIy Nzc1OTg=